SL(5)448 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif. 3) 2019
Cefndir a Diben
Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 (“Gorchymyn 2018”) yn cynnwys mesurau i atal cyflwyno a lledaenu plâu a chlefydau niweidiol i blanhigion. Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif. 3) 2019 (“Gorchymyn 2019”) yn diwygio Gorchymyn 2018 i weithredu mesurau rheoli i leihau'r risg o gyflwyno a lledaenu amrywiol blâu a chlefydau yng Nghymru.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Nid ydym yn glir a yw’r eitem 64 newydd yn y tabl yn Rhan A o Atodlen 4 i Orchymyn 2018 yn adlewyrchu’n gywir y pwynt 34 newydd yn Adran 1 o Ran A o Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC. Rydym yn amau a ddylai’r cyfeiriad ym mharagraff (c)(ii)(bb) yn nhrydedd golofn y tabl ym mharagraff 7(a)(ix) o Orchymyn 2019 at y “gofynion a bennir ym mharagraff (a)” nodi’r “gofynion a bennir ym mharagraffau (a) a (b)”.
Rydym hefyd am gael eglurhad a ddylai'r cyfeiriad ar ddiwedd paragraff (c)(ii)(bb) gyfeirio at is-baragraff (c) yn hytrach nag is-baragraff (i).
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Mae Gorchymyn 2018, sy’n cael ei ddiwygio gan yr offeryn hwn, yn gweithredu amryw rwymedigaethau'r UE mewn perthynas â chyfraith iechyd planhigion. Bydd Gorchymyn 2018, fel y'i diwygiwyd, yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
4 Hydref 2019